Thumbnail
Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru - Asedau Treftadaeth (Forol)
Resource ID
1408ba58-f757-11ee-8619-22f1565cfd10
Teitl
Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru - Asedau Treftadaeth (Forol)
Dyddiad
Ion. 5, 2024, canol nos, Creation Date
Crynodeb
Pwrpas y set ddata ofodol hon yw rhoi amcan o asedau treftadaeth forol sydd wedi'u cofnodi yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru. Cynhyrchwyd y set ddata gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru a threfnwyd iddi fod ar gael i'r cyhoedd fel rhan o'n hymrwymiad i wella mynediad at ddata morol a stiwardiaeth y data hwnnw. Byddwn yn archifo data am yr amgylchedd hanesyddol morol yn un o ganolfannau achrededig y Rhwydwaith Data a Gwybodaeth Amgylcheddol Morol (MEDIN). Mae'r set ddata ofodol hon yn cynnwys data pwyntiau yn ymwneud âr holl asedau treftadaeth forol sydd wedi'u cofnodi yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. 1.1 Y Cefndir Bydd y Comisiwn Brenhinol yn chwarae rhan arweiniol yn y gwaith o gofnodi’r amgylchedd hanesyddol daearol a morol. Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru yw’r casgliad cenedlaethol o wybodaeth am amgylchedd hanesyddol Cymru. Ceir yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru fanylion miloedd lawer o safleoedd archaeolegol, henebion, adeiladau a safleoedd arforol yng Nghymru, ynghyd â mynegai i’r lluniadau, llawysgrifau a ffotograffau a gedwir yng nghasgliadau archifol y Cofnod. Mae’r wybodaeth yn y Cofnod yn cynnwys safleoedd hysbys neu safleoedd a nodwyd a chyfeiriadau dogfennol sy'n rhoi amcan o botensial archaeolegol unrhyw ran o wely’r môr. Daeth y Comisiwn Brenhinol yn un o ganolfannau archifo data achrededig y Rhwydwaith Data a Gwybodaeth Amgylcheddol Morol (MEDIN) yn 2016. Fel aelod o MEDIN mae’r Comisiwn Brenhinol wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill yn y DU i wella mynediad i ddata morol. 1.2 Amlder Diweddaru Mae’r Cofnod Henebion Cenedlaethol yn adnodd sy’n esblygu’n barhaus. Bydd yn cael ei ddiweddaru’n gyson yn sgil darganfyddiadau ac ymchwil newydd mewn perthynas â’r amgylchedd hanesyddol. Er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth a ddarperir ar Map Data Cymru yn gyfoes, caiff y set ddata ei diweddaru bedairwaith y flwyddyn. 1.3 Darluniadau Dim ond safleoedd sydd wedi'u cofnodi o fewn amgylchedd morol Cymru sydd yn y set ddata hon. Mae pob cofnod yn tarddu o ddata arolygon geoffisegol morol neu o ffynonellau dogfennol a hanesyddol. Gall cywirdeb lleoliadol pob safle amrywio o ganlyniad i’r deunydd ffynhonnell. Mae lleoli safleoedd yn gywir yn broses barhaus ac adolygir y wybodaeth bob blwyddyn. 1.4 Defnyddio Data Pan rydych yn defnyddio’r data yma o dan Drwydded Llywodraeth Agored, dylech gynnwys y gydnabyddiaeth yma: Mae’r data safle yma o’r Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC), cynhyrchwyd gan Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC). © Hawl Cronfa data’r Goron: CBHC, wedi trwyddedu dan y Drwydded Llywodraeth Agored v3.0. 1.5 Gwybodaeth Arall Gellir cael gwybodaeth bellach am Gofnod Henebion Cenedlaethol Cymru ar wefan y Comisiwn Brenhinol. I anfon ymholiadau i CHCC gallwch e-bostio: chc.cymru@cbhc.gov.uk neu ffonio: 01970 621200. https://cbhc.gov.uk/cysylltu-a-ni/  Gallwch gyrchu Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru ar-lein am ddim drwy ddefnyddio Coflein, sef cronfa ddata ar-lein Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.  Mae rhagor o wybodaeth am y Rhwydwaith Data a Gwybodaeth Amgylcheddol Morol (MEDIN) i’w weld yma.
Rhifyn
Jan/Ionawr 2024
Responsible
Charina.Jones
Pwynt cyswllt
Jones
charina.jones@rcahmw.gov.uk
Pwrpas
--
Pa mor aml maen nhw'n cael eu diweddaru
None
Math
not filled
Cyfyngiadau
Cyfyngiadau Eraill
Pan rydych yn defnyddio’r data yma o dan Drwydded Llywodraeth Agored, dylech gynnwys y gydnabyddiaeth yma: Mae’r data safle yma o’r Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC), cynhyrchwyd gan Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC). © Hawl Cronfa data’r Goron: CBHC, wedi trwyddedu dan y Drwydded Llywodraeth Agored v3.0.
License
Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus
Iaith
en
Ei hyd o ran amser
Start
Ion. 5, 2024, canol nos
End
Ion. 5, 2024, canol nos
Gwybodaeth ategol
Ansawdd y data
--
Maint
  • x0: -6.72366714477539
  • x1: -2.63822913169861
  • y0: 50.9361305236816
  • y1: 54.0937652587891
Spatial Reference System Identifier
EPSG:4326
Geiriau allweddol
no keywords
Categori
Amgylchedd
Rhanbarthau
United Kingdom